Joel Mallison
Rownd derfynol
Mae Joel Mallison, prentis a cherddor, wedi taro’r nodyn ar ei ben wrth newid gyrfa gan ei fod yn gwneud yn ardderchog fel prentis gyda chwmni telathrebu Openreach.
Ar ôl mynd i astudio cerddoriaeth a graddio gyda rhagoriaeth mewn Cynhyrchu ar gyfer y Radio, bu Joel, 30, o’r Fenni, yn gweithio ym musnes paentio ac addurno ei dad am chwe blynedd cyn penderfynu newid gyrfa.
Gan fod ganddo ddiddordeb mewn telathrebu, aeth Joel at Openreach a chwblhau Prentisiaeth Sylfaen ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol mewn TG, Meddalwedd, y We a Thelathrebu fis Medi diwethaf. Darparwyd y brentisiaeth gan Openreach a’i chefnogi gan ALS Training, Caerdydd.
Dywedodd rheolwr bro Openreach yn ardal y Fenni, Matthew James:
“Mae Joel yn gydwybodol iawn. Ar ôl gweithio gyda Joel, mae fy nisgwyliadau ar gyfer fy mheirianwyr yn uchel iawn.”