DOW
Rownd derfynol
Erbyn hyn mae Dow Silicones UK Limited yn llwyddo i feithrin llawer o’i weithwyr arbenigol ei hunan gan ddefnyddio prentisiaethau.
Ac yntau’n un o’r cwmnïau mwyaf yn y byd ym maes gwyddoniaeth mater, bu Dow yn cynhyrchu nwyddau rhyngol silicon yn y Barri ers 1952. Mae’r cwmni’n cydweithio’n agos â nifer o ddarparwyr dysgu, yn cynnwys Coleg Caerdydd a’r Fro (CAVC), gan gynnig pum llwybr dysgu ar Lefelau 2 a 3, a thri llwybr arall ar ffurf Prentisiaethau Uwch.
Ar hyn o bryd, mae tîm prentisiaid cynnal a chadw Dow yn cynllunio, yn adeiladu ac yn darparu proses ar gyfer offer gweithiol y gall y coleg eu defnyddio wrth ddysgu ar y campws.
Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae llawer o brentisiaid wedi symud ymlaen i swyddi uchel gyda’r cwmni sydd hefyd yn cynnig Prentisiaethau Gradd mewn partneriaeth â Phrifysgol y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol De Cymru i bobl sy’n awyddus i ganfod cyfleoedd newydd ar gyfer eu gyrfa.