Cyngor Rhondda Cynon Taf
Enillydd
Bu hyblygrwydd yn allweddol i lwyddiant Rhaglen Brentisiaethau Cyngor Rhondda Cynon Taf sydd wedi dal i ffynnu er gwaethaf heriau pandemig byd-eang a Storm Dennis.
Trefnwyd i’r 80 o brentisiaid weithio gartref a dysgu o bell a chynigiwyd estyniadau i gyrsiau a dyddiadau cau. Bu prentisiaid yn cefnogi gwasanaethau hanfodol yn y gymuned – bu rhai’n cydweithio â’r GIG ar ddata am bobl oedd yn gorfod eu gwarchod eu hunain rhag y coronafeirws, ac mae rhai wedi bod yn dosbarthu parseli bwyd.
Mewn ymateb i Storm Dennis, a achosodd ddifrod i ffyrdd, pontydd a chanol trefi yn yr ardal fis Chwefror diwethaf, mae’r cyngor wedi recriwtio pedwar prentis ychwanegol mewn peirianneg sifil.
Gyda’r fath ymrwymiad i hyfforddiant, roedd cyfradd cwblhau prentisiaethau gyda’r cyngor yn 94%, gydag wyth o bob deg prentis yn mynd ymlaen i weithio gyda’r cyngor.