Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Ciara Lynch

Mae Ciara Lynch, sy’n Brentis Uwch, yn gwneud ei marc ym maes adeiladu a pheirianneg sifil, diolch i’w gwaith ardderchog fel technegydd cynorthwyol gyda Chyngor Abertawe.

Eisoes, enillodd Ciara, 22, o Dreforys, HNC mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig a Phrentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Goruchwylio Safleoedd Adeiladu yng Ngholeg Pen-y-bont.

A hithau wedi cael Ysgoloriaeth Quest gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE), ei nod yn y pen draw yw bod yn Beiriannydd Sifil Siartredig ac mae wedi dechrau ar radd mewn Peirianneg Sifil.

Mae Ciara, sy’n llysgennad gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), yn awyddus i hyrwyddo manteision prentisiaethau, gan dynnu sylw at gyfleoedd i fenywod mewn diwydiant sy’n hybu amrywiaeth.

Dywed Ciara bod prentisiaethau’n wych am eu bod yn cyfuno profiad a sgiliau’r gweithle gyda gwybodaeth academaidd.