Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Cambria Maintenance Services Ltd

Bu buddsoddi yn natblygiad y gweithlu a chynllunio ar gyfer olyniaeth yn hanfodol i lwyddiant Cambria Maintenance Services sy’n gwneud gwaith cynnal a chadw ar dros 12,000 o dai ledled Cymru.

Mae gan y cwmni swyddfeydd yng Nghaerdydd ac yn Ewlo, Glannau Dyfrdwy, a dros 160 o staff, yn cynnwys 16 o brentisiaid sy’n allweddol i lwyddiant y busnes.

Mae Cambria, sy’n rhan o Grŵp Tai Wales & West, wedi cyflogi 37 o brentisiaid dros y 10 mlynedd diwethaf a’r bwriad yw cyflogi rhagor fel rhan o gynllun treigl  pum mlynedd.

Mae’r cynnydd yn nifer y prentisiaid yn cydredeg â thwf yn y busnes ei hunan, gyda’r trosiant yn cynyddu o £2.7 miliwn yn ei flwyddyn gyntaf i £12.07m yn 2019.

Mae Coleg Cambria a Choleg Caerdydd a’r Fro yn cynnig Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweithrediadau Cynnal a Chadw ynghyd â Phrentisiaethau mewn Gosod Systemau ac Offer Electrodechnegol a Gwaith Plymwr a Gwresogi ar gyfer cwmni Cambria.