Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Cymru iachach a mwy cyfartal yw’r nod i Raglen Brentisiaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe sydd â 29 o brentisiaid a 18 arall yn disgwyl dechrau ar 17 o Fframweithiau Prentisiaethau. 

Mae Academi Prentisiaid y Bwrdd Iechyd yn cydweithio â’r darparwyr hyfforddiant Grŵp Colegau NPTC a Choleg Gŵyr Abertawe ac yn cynnig cyfle i ‘brofi cyn prynu’ sy’n golygu y caiff dysgwyr newid eu llwybr dysgu i ddilyn cwrs mwy addas.

Dywedodd y cydlynydd datblygiad staff a phrentisiaid Abbie Finch:

“Mae’n nod gennym gynnig rhagor o gyfleoedd am brentisiaethau i rai sydd ag anabledd a phobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn ogystal â mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng dynion a menywod ymhlith ein staff o 12,500.”