Bethany Mason
Enillydd
Mae parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd ac i gymryd mwy o gyfrifoldeb o dan amgylchiadau anodd wedi helpu Bethany Mason i ragori yn ei gwaith fel swyddog gwasanaethau profedigaeth.
Ers iddi ymuno â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fel prentis swil yn 2016, mae Bethany, 21, wedi llwyddo i oresgyn nifer o heriau anodd, gan wneud gwahaniaeth enfawr i staff Amlosgfa Glyn-taf ger Pontypridd a’r teuluoedd galarus sy’n defnyddio’r amlosgfa.
Mae wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen ac mae bron â chwblhau NVQ lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes, y ddau gymhwyster wedi’u darparu gan Goleg y Cymoedd.
Yn ogystal, mae Bethany, o Lantrisant, wedi meithrin sgiliau arwain, wedi digideiddio a chanoli cofnodion claddu a chynlluniau mynwentydd Rhondda Cynon Taf ac wedi cyflwyno system ddigidol i deuluoedd ganfod cerddoriaeth ar gyfer gwasanaethau amlosgi, ynghyd â gweddarllediadau a theyrngedau gweledol.