Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

The Danish Bakery Ltd.

Dydi siop goffi a becws Daneg poblogaidd Brød, yng Nghaerdydd ddim wedi edrych yn ôl ers iddynt gyflogi eu prentisiaid cyntaf ychydig ar ôl agor y busnes bedair blynedd yn ôl.

Sefydlwyd Brød (The Danish Bakery Ltd), ar Wyndham Crescent yn ardal Pontcanna, Caerdydd, gan Betina Skovbro. Prinder pobyddion medrus ac awydd i hyfforddi gweithwyr mewn technegau pobi Daneg a symbylodd Betina i gyflwyno Prentisiaethau Sylfaen a Phrentisiaethau mewn Hyfedredd yn Sgiliau’r Diwydiant Pobi, a ddarperir gan y darparwr hyfforddiant, Hyfforddiant Cambrian. Mae dau brentis yn y busnes ar hyn o bryd.

Un o Copenhagen yw Betina ac mae ganddi 16 o staff llawn amser a rhan amser. Ailfuddsoddwyd yr elw ar ôl i’r busnes dyfu’n dda – 26% yn 2017 a 19% yn 2018.