Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Mae prentis peirianneg, sy’n llysgennad gwaith Dur Llan-wern dros Magnet, cymdeithas Tata Steel yn Ewrop ar gyfer pobl ifanc broffesiynol, yn hollol benderfynol o fod yn beiriannydd siartredig.

Mae Shane Ash, 26 oed, o Risga, wedi rhoi ei fys ar newidiadau a arbedod dros £22,000 i Tata Steel Strip Products wrth reoli prosiect mawr i wneud a gosod car trosglwyddo coiliau.

Mae wedi cwblhau Prentisiaeth mewn Gweithgynhyrchu Peirianyddol (Cynnal a Chadw Peirianyddol) ac HNC ac HND mewn Peirianneg Fecanyddol, mae'n gweithio ar Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Peirianneg Fecanyddol ac mae’n gobeithio ennill gradd BSc mewn Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol De Cymru lle cafodd yr HND. Coleg Gwent gyflenwodd yr holl gymwysterau eraill.