Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Radnor Hills

Mae dyfodiad rhaglenni Prentisiaethau i gwmni dŵr ffynnon a diodydd meddal Radnor Hills o Bowys yn 2017 wedi cael “effaith wirioneddol drawsnewidiol” ar y gweithwyr a thwf y busnes.

Mae’r cwmni, sy’n cyflogi 181 yn Heartsease, ger Trefyclo, wedi gweld twf o 20 y cant yn y busnes yn y ddwy flynedd ddiwethaf, yn cynnwys y flwyddyn orau hyd yma yn 2018.

Mae gan Radnor Hills 53 o brentisiaid mewn gwahanol rannau o’r busnes, yn gweithio at gymwysterau mewn bwyd, arwain tîm, ac arwain a rheoli, o Brentisiaethau Sylfaen i Brentisiaethau Uwch, yn cael eu cyflenwi gan y darparwr dysgu, Hyfforddiant Cambrian. Coleg Henffordd sy’n cyflenwi cymwysterau mewn peirianneg.