Melanie Davis
Rownd derfynol
Bu diagnosis o ddyslecsia yn gychwyn ar “daith ddysgu ryfeddol” a welodd Melanie Davis yn cwblhau Prentisiaeth Uwch gan ddod â’i breuddwyd o fynd i’r brifysgol gam yn nes.
Cyn gwneud y Brentisiaeth Uwch (Diploma Lefel 4) mewn Gwasanaethau Cyflogaeth gyda Busnes@LlandrilloMenai, roedd Melanie, 56 oed, o Fetws-y-coed, wedi osgoi cymwysterau academaidd. Newidiodd hynny pan drefnodd ei thiwtor, Tina Jones, asesiad a gadarnhaodd bod dyslecsia ar Melanie.
Meddai Melanie:
“Dyna oed dechrau fy nhaith ryfeddol o ddysgu. Roedd y cynnydd personol a wnes yn ystod y brentisiaeth yn ddigon i newid fy mywyd. Bu’n help i mi feddwl a chynllunio’n fwy manwl o lawer.”