Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Matthew Lloyd Jones

Mae Matthew Lloyd Jones yn edrych ymlaen at brentisiaeth gyda chwmni adeiladu lleol, rhywbeth nad oedd yn ymddangos yn bosib beth amser yn ôl. Mae ADHD ar Matty. Cafodd drafferthion yn yr ysgol ac roedd ei fywyd yn mynd allan o reolaeth.

Ar gwrs Hyfforddeiaeth gyda’r Academi Adeiladu trwy Goleg Cambria, bu Matty, o Fwcle, yn cymryd rhan mewn gweithdai adeiladu, prosiectau cymunedol a lleoliadau gwaith. Ar ôl gwneud cwrs diogelwch ar safle ac ennill Cerdyn Gwyrdd Labrwr y CSCS, cafodd wneud lleoliad gwaith ar safle adeiladu ac mae contractor adeiladu lleol wedi cynnig prentisiaeth iddo.

Meddai Matty:

“Mae rhaglen yr Hyfforddeiaeth wedi fy helpu i gael trefn ar fy mywyd eto. Dwi wedi profi i mi fy hun, fy nheulu a fy hyffoddwyr mod i’n gallu newid cyfeiriad.”