Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Mae Lynn Matthews yn gwybod mwy na’r rhan fwyaf am y gefnogaeth y mae ar lawer o ddysgwyr ei hangen a hithau wedi goresgyn dyslecsia i ddod yn diwtor arweiniol uchel ei pharch. Mae Lynn, 57 oed, o Gorseinon, yn gweithio i PeoplePlus Cymru ers 2013 gan weithio gyda rhwng 30 a 40 o ddysgwyr 16-19 oed ag anghenion dysgu amrywiol iawn.

Mae’n credu’n gryf mewn dysgu gydol oes ac, yn 2012, enillodd Dystysgrif Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol a chymhwyster Ymarferwr Sgiliau Sylfaenol. Ar ôl hynny, cwblhaodd Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Cyngor ac Arweiniad. 

Mae’n gyfarwydd iawn â thechnegau dysgu modern ac yn chwilio am ffyrdd newydd o gyflenwi hyfforddiant gan wahodd tiwtoriaid i weld a defnyddio'r adnoddau a ddatblygwyd ganddi trwy blatfformau cydweithio ar-lein.