Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Legal and General

Anelu’n uchel, cyrraedd y nod a thyfu yw ethos cwmni Legal and General Investment Management (LGIM) ar gyfer datblygu ac maent wedi creu Rhaglen Brentisiaethau lwyddiannus sy’n gosod sylfeini cadarn at y dyfodol.

Ers 2016, mae LGIM Retail, adain sydd â'i phrif swyddfa yng Nghaerdydd, wedi mwynhau manteision rhaglen fewnol. Cafodd y rhaglen hyfforddi gychwynnol ei theilwra ar gyfer anghenion y tîm rheoli presennol ym maes prentisiaethau uwch gan chwalu’r gred nad yw prentisiaethau’n werthfawr i staff sydd yn eu swyddi ers blynyddoedd neu sydd mewn swyddi uchel.

Bu LGIM Retail yn cydweithio’n agos â TSW Training o Ben-y-bont ar Ogwr i gynnig Prentisiaethau Lefel 3, 4 a 5.