Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Lara Baldwin

Mewn dim ond tair blynedd, mae Lara Baldwin wedi datblygu o fod yn hyfforddai i fod yn asesydd uchel ei pharch â dros 40 o ddysgwyr yn ei gofal.

Mae Lara, 30 oed, wedi trosglwyddo cyfoeth o wybodaeth a phrofiad o fyd gofal plant i fyd dysgu seiliedig ar waith gydag ACT Training, Caerdydd ac mae’n cyflwyno Prentisiaethau Lefel 2, 3 a 5 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (GDDP) a chymwysterau Gwaith Chwarae i bobl o wahanol oedrannau ac ar wahanol lefelau.

Cychwynnodd Lara ei gyrfa yn fuan ar ôl gadael yr ysgol. Yna enillodd Radd Anrhydedd BA mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod Cynnar ac, yn fuan wedyn, Radd Meistr mewn Addysg. Tra oedd yn gweithio mewn meithrinfa, cwblhaodd gymhwyster Lefel 5 mewn Gofal Plant i’w helpu i ddeall a chefnogi’r staff yr oedd yn eu mentora.