Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Joe Peskett

Oherwydd ei lwyddiant ar Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Dadansoddi Data yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), cafodd Joe Peskett deithio i Ewrop ac America, ac mae taith i Affrica ar y gweill. 

Gwnaeth Joe, sy’ gweithio ar y Campws Gwyddor Data yng Nghasnewydd, yn rhagorol ar ei brentisiaeth dwy flynedd ar y cyd ag ALS Training a chafodd swydd lawn amser yn Wyddonydd Data. 

O ganlyniad i’w waith ar ‘Mapio’r Goedwig Drefol’ – yn datblygu data, ar sail lluniau Google Street View – datblygodd brototeip o ddyfais ddelweddu. 

Meddai Joe:

“Rwy wrth fy modd â’r gwaith achos mae heriau newydd yn codi o hyd. Rwy’n mwynhau’r cyffro o ddatrys problem  ar ôl ymdrechu’n galed.”