Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Trwy ymrwymo i brentisiaethau, mae gwesty, bar a bwyty annibynnol ar lannau Bae Ceredigion yn llwyddo i gynnal gweithlu o 40 o weithwyr medrus a brwd. Mae Gwesty'r Harbourmaster yn Aberaeron yn cynnig gofal ardderchog i'w gwsmeriaid a phrofiad rhagorol i ymwelwyr er mwyn cynnal yr enw da sydd ganddo ledled Prydain.

Gan fod prinder sgiliau yn y sector lletygarwch, mae’r Harbourmaster yn meithrin ei staff medrus ei hunan. Mae gan y gwesty 11 prentis, mae wedi hyfforddi 20 dros y pum mlynedd diwethaf ac mae’n bwriadu cyflogi mwy.

Mae’r darparwr dysgu Hyfforddiant Cambrian yn cynnig amryw o brentisiaethau, o Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 a Lefel 3 gyda chyfle i symud ymlaen i Rheoli Lletygarwch Lefel 4.