Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Mae Prentisiaeth Sylfaen mewn Gwaith Barbwr wedi helpu Gavin Williams i drawsnewid ei fywyd ar ôl cyfnod anodd pan fu ei dad farw. Mae Gavin, 20 oed, o Landegfan, yn hunangyflogedig yn Salon Rubens Male Grooming, Llanfair-pwll a bu’n rhaid iddo drechu caethiwed i gyffuriau er mwyn cael gyrfa sydd wedi newid ei fywyd.

Cwblhaodd Brentisiaeth Sylfaen mewn Gwaith Barbwr a ddarparwyd gan Busnes@LlandrilloMenai ac mae’n symud ymlaen i wneud prentisiaeth. Wedyn, gall gynnig gwasanaeth eillio â llafn barbwr traddodiadol a rhannu ei sgiliau â phrentisiaid eraill.

“Mae’r brentisiaeth gwaith barbwr wedi newid fy mywyd er gwell. Mae wedi gwella fy sgiliau barbwr a fy sgiliau cyfathrebu, a’m gwneud yn fwy cydwybodol a phroffesiynol. Allwn i fyth fod wedi dychmygu bod lle’r ydw i heddiw heb y brentisiaeth.”