Freight Logistics Solutions
Rownd derfynol
Nod cwmni rheoli cadwyni cyflenwi o Bont-y-pŵl, Freight Logistics Solutions (FLS), yw dyblu’r trosiant a’r gweithlu yn y pum mlynedd nesaf gyda chymorth Rhaglen Brentisiaethau gref. Mae FLS yn arbenigo mewn trefnu i gludo nwyddau dros y byd ac fe’i lansiwyd mewn ymateb i Brexit, prinder gyrwyr ym Mhrydain a chynnydd yn y galw am gymorth y sector logisteg.
Mae’r cwmni, sydd wedi’i ariannu ei hunan, wedi tyfu o dri chyfarwyddwr i 30 o weithwyr, yn cynnwys 7 prentis sy’n dilyn Prentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes a ddarperir gan Hyfforddiant Torfaen gyda chymorth Rhaglen Fdatblygu Fewnol FLS.
Meddai'r Rheolwr Gyfarwyddwr, Ieuan Rosser:
“Mae FLS wedi tyfu’n fawr yn ei dair blynedd gyntaf ac felly mae’r busnes wedi ennill nifer o wobrau ar gyfer busnesau sy’n cychwyn.