Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Ysbrydolwyd Esta Lewis gan ei diweddar dad-cu, glöwr oedd yn awyddus i sicrhau bod hanes ar gael i bawb a heddiw hi yw Swyddog Treftadaeth dan Brentisiaeth cyntaf Rhondda Cynon Taf. Mae’n creu ac yn cefnogi cyfleoedd dysgu fel rhan o wasanaeth treftadaeth yr awdurdod. 

Mae’r ferch 22 oed sydd â gradd mewn hanes yn datblygu ac yn rhedeg gweithdai ar gyfer Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda. Cefnogir ei Phrentisiaeth mewn Treftadaeth Ddiwylliannol gan y darparwr hyfforddiant Coleg Caerdydd ar Fro. 

Meddai Esta:

Rwy wrth fy modd yn dod â hanes yr ardal yn fyw i blant ysgol.

Oherwydd llwyddiant Esta gydag ymweliadau ysgolion a’r ymateb ffafriol iddynt, enillodd Parc Treftadaeth y Rhondda Wobr Sandford am y tro cyntaf.