Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Cheradine Jones

Mae Cheradine Jones yn llwyddo i jyglo’i swyddi fel Cynorthwyydd Llywodraethiant a Swyddog Cynorthwyol Diogelu Data a’i chyfrifoldeb fel Prentis Uwch mewn Rheoli Cyfleusterau gyda Grŵp Pobl, landlord cymdeithasol sy’n cynnig gwasanaethau gofal a chymorth. 

Mae Cheradine yn cael ei hyfforddi’n fewnol a gyda Choleg Gŵyr Abertawe ac yn gweithio ar sawl prosiect yn cynnwys ailddatblygu Pencadlys Grŵp Pobl, Exchange House, Abertawe, gweithredu arferion gweithio ystwyth ac arbed costau i’r busnes. 

Meddai Cheradine:

“Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi bod yn eithriadol o hyblyg. Byddai’r hyfforddwr Rheoli Cyfleusterau, Alan Robbins, yn dod i mewn ben bore i gyflwyno modiwl gan fod hynny'n gyfleus i fy nhrefniadau gofal plant.”