Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Tim Robinson

Mae asesydd technegol Coleg Cambria mewn peirianneg awyrofod a thrydanol, Tim Robinson, yn gwneud mwy nag sydd raid yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod ei ddysgwyr yn llwyddo.

Daeth Tim, 53 oed, o’r Fflint, yn aelod allweddol o’r staff ers iddo ddod i’r coleg o fyd diwydiant yn 2009.

Mae’n gweithio’n galed i ddatblygu ei sgiliau dysgu ac asesu gan gwblhau’r cymhwyster i aseswyr, ILM mewn Annog a Mentora, cymhwyster City & Guilds mewn Cefnogi Oedolion a Phobl Ifanc â Sgiliau Hanfodol a TAR er mwyn cynnig gweithdai sgiliau ychwanegol.

Mae holl ddysgwyr Tim ers 2014 wedi dal ati a chwblhau eu cymhwyster. Maent yn ei edmygu am eu hysgogi a’u cefnogi a dywed llawer bod Tim wedi’u cadw rhag gadael eu prentisiaeth pan oeddent o dan bwysau.