Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS)
Rownd derfynol
Mae sefydliad sy’n cael dylanwad sylweddol ar brosesau penderfynu yn y Deyrnas Unedig, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), yn ymfalchïo ei fod yn recriwtio ac yn hyfforddi gweithlu o safon uchel.
Mae’r ONS, sydd â 2,177 o weithwyr, wedi ymrwymo i sicrhau bod 2.3% o’i weithlu yng Nghymru yn dechrau fel prentisiaid, sy’n golygu 44 bob blwyddyn yn y pencadlys yng Nghasnewydd.
Mae’n rhaglen uchelgeisiol a fu’n rhedeg ers 18 mis. Caiff ei chydlynu gan ALS Training ac fe gynigir wyth fframwaith prentisiaethau ar hyn o bryd, yn cynnwys y Brentisiaeth Uwch Lefel 4 arloesol mewn Dadansoddi Data.
Mae’r rhaglen arbennig hon yn arwain at gymhwyster sy’n addas ar gyfer byd dadansoddi ac mae’n elfen allweddol yn rhaglen yr ONS i ddatblygu’r ffordd y maent yn cyflogi, yn datblygu ac yn cadw pobl effeithiol.