Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Neil Jones

Mae bachgen ifanc a fu’n nerfus a phryderus wedi “dod allan o’i gragen” diolch i gymorth Ymddiriedolaeth y Tywysog a’r darparwr hyfforddiant The People Business-Wales.

Am gyfnod byddai Neil Jones, 18 oed, o Drebefered, Llanilltud Fawr, yn gwneud dim ond aros yn ei lofft yn chwarae gemau cyfrifiadurol trwy’r dydd ond erbyn hyn mae’n brentis gwerthfawr gyda chwmni siopau Peacocks yn y Barri.

Y trobwynt iddo oedd cwblhau Rhaglen Tîm Ymddiriedolaeth y Tywysog (Ymgysylltu) gyda The People Business-Wales. Symudodd ymlaen i Hyfforddeiaeth Lefel 1 a chyn pen pedair wythnos cynigiwyd Prentisiaeth iddo gyda Peacocks. Ei obaith yn awr yw mynd i’r coleg i astudio busnes.

Dywedodd Caroline Morris-Hills, rheolwr canolfan The People Business-Wales Ltd yn y Barri: “Bu newid enfawr yn Neil o pan gychwynnodd ar yr Hyfforddeiaeth i pan ddaeth at Peacocks.”