Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Lynnette Davies

Mae’r wybodaeth a’r sgiliau a ddysgodd Lynnette Davies ar Brentisiaeth Uwch yr ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Lefel 5) wedi’i helpu i sicrhau gwelliannau sylweddol yn y DVLA yn Abertawe.

Bu Lynnette, 51 oed, o Gastell-nedd, mor llwyddiannus yn gwneud newidiadau, yn ennyn diddordeb staff ac yn gostwng nifer y cwynion fel ei bod wedi'i phenodi'n arweinydd gwelliant parhaus ynghyd â’i swydd fel rheolwr gwella profiad cwsmeriaid.

A hithau’n dychwelyd i addysg ffurfiol am y tro cyntaf mewn 31 o flynyddoedd, cwblhaodd y Brentisiaeth Uwch trwy Hyfforddiant Llwybrau yng Ngrŵp Colegau NPTC ac mae’n symud ymlaen i’r Proffesiwn Cyflawni Gweithredol Lefel 6.

Roedd Lynnette yn rhan o dîm arwain oedd â’r dasg o rymuso ac ysbrydoli’r gweithlu, a bu’n arwain ar y gwaith o gynllunio a chyflenwi hyfforddiant ‘Diwylliant Cwsmeriaid yn Gyntaf’ i bron 4,000 o staff.