Neidio i'r prif gynnwy

Enyllidd

Daren Chesworth

Y peiriannydd, Daren Chesworth, yn profi y gall prentisiaethau newid bywydau

Aeth Daren, 30 oed, sy’n byw yn Wrecsam, i weithio gyda Transcontinental AC UK Ltd yn y dref ar ôl i’w swydd fel plymer ddod i ben ac yntau â theulu i’w gynnal.

Diolch i'r llwybr prentisiaethau, mae’r gweithiwr di-grefft wedi cymhwyso’n beiriannydd sy’n rhan o dîm aml-adrannol.

Ef oedd prentis cyntaf y cwmni ac fe gwblhaodd ei brentisiaeeth mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg trwy Goleg Cambria. Symudodd ymlaen i Brentisiaeth Uwch (Lefel 4), gradd mewn Peirianneg Ddiwydiannol (Mecatroneg) gydag Anrhydedd a, cyn hir, bydd yn cwblhau ei MPhil cyn dechrau astudio ar gyfer MBA. Ei nod yw bod yn Beiriannydd Siartredig ac yn arbenigwr ar beirianneg cynnal a chadw.