Neidio i'r prif gynnwy

Enyllidd

Carly Murray

Mae Carly Murray wrth ei bodd yn cyflenwi cymwysterau seiliedig ar waith sy’n creu argraff ar yr unigolyn yn ogystal ag ar y dysgwyr y byddant yn eu cefnogi.

Ers pum mlynedd, bu Carly, 35 oed, yn asesydd Sicrhau Ansawdd Mewnol tîm addysg a datblygu ACT Limited. Mae’n cyflenwi Prentisiaethau mewn Dysgu a Datblygu a Phrentisiaethau Uwch mewn Cyngor ac Arweiniad yng Nghaerdydd.

Yn ogystal â’r 30 o ddysgwyr y mae’n eu hyfforddi, mae Carly’n gweithio gyda thîm o 14, sy’n cynnwys aseswyr, tiwtoriaid, mentoriaid a chynghorwyr mewn nifer o sectorau cefnogi.

Mae dros 90% o’i dysgwyr yn cwblhau eu cymhwyster ac mae wedi sicrhau cyfradd lwyddiant o 100% ddwywaith yn y pum mlynedd diwethaf.

“Rwy wrth fy modd yn dysgu ac rwy'n meddwl y gall fy mrwdfrydedd fod yn heintus," meddai.