Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Roedd Stephen Pickles yn dangos diddordeb mewn peirianneg gyda’i dad pan oedd yn ifanc iawn a phan oedd yn 16 roedd yn gwybod ei fod am wneud gwaith ymarferol yn hytrach nag aros mewn addysg lawn amser. Dechreuodd ar brentisiaeth gyda chwmni Renishaw, cwmni peirianneg byd-eang o Feisgyn, ac erbyn hyn, ac yntau yn ei drydedd flwyddyn, mae ei gydweithwyr yn edrych arno fel “peiriannydd” yn barod. 

Mae Stephen, 19 oed o Lanrhymni, wedi ennill HNC mewn Gweithgynhyrchu Mecanyddol ym maes Peirianneg â rhagoriaeth a chymhwyster comisiynu NVQ lefel 3 trwy Brifysgol De Cymru. Mae’n bwriadu symud ymlaen i HND llawn a Diploma mewn Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Fecanyddol.