Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Dros gyfnod o 23 blynedd o hyfforddi pobl, mae Ros Smith wedi ymroi i newid bywydau ei dysgwyr. A hithau’n diwtor arweiniol cerbydau modur gydag ACT Limited yng Nghaerdydd, mae Ros yn rhan o dîm sy’n cyflenwi Hyfforddeiaethau Cerbydau Modur Lefel 1 ac Ymgysylltu ledled de Cymru. Er bod Ros wedi datblygu dwy ffrwd o’r cwricwlwm, mae’n barod i addasu a gwneud newidiadau er mwyn sicrhau bod pob dysgwr ifanc yn cael y profiad gorau.

Mae Ros wedi helpu i drawsnewid Hyfforddeiaethau Cerbydau Modur ACT; mae 96% o’r dysgwyr yn symud ymlaen at ddysgu pellach neu i waith er bod 90% yn cael ei gyfrif yn rhagorol ar raddfa genedlaethol.