Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Rebecca Crook

Mae Rebecca Crook wedi goresgyn cyfres o rwystrau i sicrhau Prentisiaeth Uwch a chael dyrchafiad ym meithrinfa ddydd Little Inspirations lle mae’n gweithio. Ar ôl iddi ddechrau ar Brentisiaeth Uwch mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant fe gaeodd y feithrinfa a’r darparwr hyfforddiant lle’r oedd yn wreiddiol.

Ond roedd Rebecca, 41, o Sain Tathan, yn benderfynol o lwyddo. Llwyddodd i gwblhau’r cymhwyster yn yr haf eleni gyda Hyfforddiant Torfaen ar ôl cael swydd newydd gyda meithrinfa ddydd Little Inspirations, y Barri. Roedd yn werth yr holl waith caled gan iddi gael ei dyrchafu’n rheolwr y feithrinfa.