Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Dydi’r cigydd o fri, Peter Rushforth, ddim wedi edrych yn ôl ers iddo ddewis dilyn prentisiaeth mewn cigyddiaeth yn lle mynd i’r brifysgol. Mae Peter, 22 oed o Goed-llai, wedi ennill medal WorldSkills UK am gigyddiaeth a theitl Cigydd Ifanc y Flwyddyn gan y Meat Trades Journal ac mae wedi cynrychioli’r Deyrnas Unedig mewn Cystadleuaeth Ewropeaidd i Gigyddion Ifanc.

Eleni, cafodd Peter ysgoloriaeth gan Hybu Cig Cymru i astudio chwarter blaen cig eidion a chynhyrchion cysylltiedig yn yr Unol Daleithiau. Mae Peter yn gweithio i siop fferm Swans, Treuddyn, ac mae wedi symud ymlaen o Brentisiaeth Sylfaen yn Sgiliau’r Diwydiant Cig a Dofednod i Brentisiaeth Uwch mewn Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd.