Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Matthew Owen

Ac yntau’n fathemategydd naturiol, mae Matthew Owen yn gallu addysgu mewn ffordd sy’n gwneud hyd yn oed y dysgwyr mwyaf nerfus yn frwd ac yn awyddus i ddysgu mwy.

Ymarferydd sgiliau hanfodol gydag Aspiration Training yn Llaneirwg, Caerdydd yw Matthew ac mae’n dysgu sgiliau cyfathrebu, cymhwyso rhif a llythrennedd digidol i bobl sy’n gobeithio ennill cymwysterau mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gofal plant, rheoli a nyrsio deintyddol. Mae Matthew wrth ei fodd yn hyfforddi pobl ac mae’n cynnig pwyntiau dysgu unigol, gan ystyried profiadau blaenorol o ddysgu a chyfyngiadau corfforol ac emosiynol.