Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Kelly Nancarrow

Mae Kelly Nancarrow yn ymroi i godi safon dysgu ac addysgu gyda Hyfforddiant Torfaen. Gyda dros 15 mlynedd o brofiad o ddysgu seiliedig ar waith, mae wedi symud ymlaen o fod yn asesydd i fod yn uwch swyddog hyfforddiant ac yn warantydd ansawdd mewnol y ganolfan.

Oherwydd ansawdd y gefnogaeth, yr arweiniad a’r addysg y mae hi’n eu rhoi i ddysgwyr lefel uchel, mae llawer iawn ohonynt yn symud ymlaen i lefel nesaf eu hyfforddiant. Ond mae Kelly’n cael ei chydnabod hefyd am ei gwaith yn datblygu staff Hyfforddiant Torfaen trwy weithredu systemau a phrosesau ansawdd, cynlluniau datblygu personol, cynlluniau blynyddol, gweithdai, diwrnodau hyfforddi, ffurflenni adborth a holiaduron.