Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Joshua O’Leary

Mae Joshua O’Leary yn ddyn ifanc 19 oed hyderus sy’n edrych i’r dyfodol; mae ganddo swydd a gobaith am yrfa dda. Mae hynny’n wahanol iawn i’r bachgen oedd yn cael ei fwlio yn yr ysgol, yn cael trafferthion oherwydd ei bwysau, dyslecsia a lletchwithdod ac a gafodd gyfnod o iselder ar ôl hunanladdiad ei ffrind.

Trwy’r darparwr hyfforddiant PeoplePlus o Ferthyr Tudful a’i swydd gydag Elite Paper Solutions, llwyddodd Joshua i gwblhau rhaglen Hyfforddeiaeth Lefel 1, ar ôl gwneud NVQ Lefel 1 mewn Gwaith Warysau a Storio yn Y Coleg, Merthyr Tudful. Mae’n symud ymlaen yn awr i Brentisiaeth Sylfaen mewn Gwaith Warysau.