Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Joe Lewis

Mae Joe Lewis o Bort Talbot yn aelod allweddol o’r tîm ym mhurfa nicel Vale Europe Ltd. Mae’r bachgen ifanc 21 oed yn gweithio yn nhîm caffael a storfeydd y cwmni i ddatblygu’r dulliau strategol a ddefnyddir yn y burfa i bennu nodau a thargedau.

Yn ogystal â chysoni model gwelliant parhaus gyda strategaeth y busnes, mae
wedi defnyddio’i sgiliau a’i flaengarwch i gyflymu’r broses archebion prynu, mae
wedi datblygu trefn sy’n olrhain hynt y prosiectau lefel uchel ac mae wedi gwella systemau’r cwmni ar gyfer rheoli contractau. Ar ôl cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddu Busnes, gydag Acorn Learning Solutions, mae Joe wedi symud ymlaen i ddilyn Prentisiaeth.