Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Mae perchnogion y cartref ymddeol preifat cyntaf i geffylau ym Mhrydain yn credu’n gryf mewn datblygu eu staff trwy raglenni prentisiaethau. Agorwyd yr Happy Horse Retirement Home gan Nicky a Ray Van Dijk yng Nghrai, ger Aberhonddu, yn 1989 ac erbyn hyn mae wyth o staff yn gofalu am 50 o geffylau.

Mae’r cwmni wedi helpu i hyfforddi naw o brentisiaid yn y pum mlynedd diwethaf a’r rhan fwyaf ohonynt wedi symud ymlaen i yrfaoedd yn y diwydiant ceffylau. Mae un o’r cyn-brentisiaid yn cynrychioli Prydain yng nghamp gyrru ceffylau mewn harnes. Mae’r hyfforddiant yn amrywio o Brentisiaethau Sylfaen i Brentisiaeth Uwch, ac fe’i cyflenwir gan Goleg Cambria.