Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Emma Huggins

A hithau wedi bod yn brentis ei hunan, mae Emma Huggins yn gwybod sut mae’r dysgwyr mae’n gofalu amdanynt yn teimlo. Mae Emma’n asesydd yn adran Gwasanaethau Busnes ACT Limited yng Nghaerdydd ac mae’n gofalu am 40 o Brentisiaid Sylfaen ym maes Gweinyddu Busnes, Gwasanaethau Cwsmeriaid a Manwerthu.

Mae Emma’n deall pwysigrwydd trin pob dysgwr fel unigolyn, gwybod sut maent yn meddwl ac a oes rhwystrau yn eu hatal rhag dysgu. Mae Emma’n credu’n gryf mewn rhwydweithio ac mae wedi meithrin cysylltiadau gwych gyda chyflogwyr lleol, yn enwedig Cyngor Dinas Casnewydd lle mae’n goruchwylio 10 o brentisiaid.