Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Mae Emily Wintle 18 oed o Lanhari yn ferch ifanc benderfynol iawn sydd wedi goresgyn nifer o anawsterau ar y ffordd i ddod yn aelod gwerthfawr o staff meithrinfa St Aubin, y Bont-faen. Diolch i waith caled Emily a chefnogaeth ACT Limited, Pen-y-bont, llwyddodd i gwblhau ei Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn Gofal Plant mewn dim ond tri mis, gyda’r hyfforddwr a’i chyflogwr yn deall bod ganddi ddyslecsia difrifol.

Erbyn hyn, mae wedi dechrau ar Brentisiaeth Sylfaen mewn Gofal Plant. Yn yr ysgol, roedd pobl yn edrych i lawr arni oherwydd ei hanawsterau dysgu ac roedd yn teimlo’n unig ac fe effeithiodd hynny ar ei hunan-fri.