Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Electroimpact UK Ltd

Mae datblygiad ei brentisiaid yn allweddol i lwyddiant Electroimpact UK Ltd, cwmni o’r gogledd sy’n dylunio ac yn gweithgynhyrchu ar gyfer y diwydiant awyrofod. Mae gan y cwmni o Benarlâg gynlluniau dysgu clir a thargedau pendant ac mae ei brentisiaid yn cael mentor un-iun a’u hannog i’w herio’u hunain i ddatrys problemau.

Mae prentisiaid y cwmni wedi ennill gwobrau mewn cystadlaethau sgiliau cenedlaethol a rhyngwladol ac enwyd y cwmni’n Gyflogwr y Flwyddyn VQ 2017. Mae’n cydweithio’n agos â’r darparwr hyfforddiant, Coleg Cambria, i gynnig fframweithiau, yn cynnwys Prentisiaeth a Phrentisiaeth Uwch mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg.