Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Deloitte LLP

Mae rhaglen brentisiaethau bwrpasol y cwmni gwasanaethau proffesiynol, Deloitte, wedi arwain at well syniadau a mwy o greadigrwydd o fewn y busnes ac ar gyfer cleientiaid. Lansiwyd y rhaglen yn 2015, a bu mor llwyddiannus nes bod swyddfa’r cwmni yng Nghaerdydd wedi bod yn recriwtio prentisiaid ychwanegol ynghanol y tymor.

Mae’r rhaglen yn rhan o strategaeth ‘One Million Futures’ Deloitte sy’n ceisio hybu symudedd cymdeithasol a gosodwyd Deloitte yn bumed ym Mynegai Cyflogwyr Symudedd Cymdeithasol y Deyrnas Unedig. Mae’r cwmni’n cynnig cymhwyster Diploma Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes (Cymru) ac yn cydweithio â’r darparwr hyfforddiant Coleg Caerdydd a’r Fro.