Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Celtica Foods

Er mwyn denu a datblygu gweithwyr o’r cylch, penderfynodd cwmni Celtica Foods, busnes cigydda arlwyo a phrosesu cig yn y gorllewin, ddatblygu academi hyfforddi. Roedd y cwmni o Cross Hands wedi gweld bod oedran ei gigyddion, sef 49 oed ar gyfartaledd, yn fygythiad i’r busnes a bod llai o gigyddion arlwyo ar gael i’w recriwtio. Roedd angen i’r cwmni ddenu gweithwyr iau a sicrhau eu bod yn dysgu sgiliau cigydda amrywiol. 

Cwmni Hyfforddiant Cambrian sy’n cyflenwi’r cymwysterau sy’n amrywio o Brentisiaethau Sylfaen mewn Cig a Dofednod, a Sgiliau’r Diwydiant Bwyd, i Brentisiaeth Uwch mewn Rhagoriaeth Cynhyrchu Bwyd. Yn ystod y degawd diwethaf, mae 114 o’u staff wedi cwblhau rhaglenni NVQ.