Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Catherine Grace Cox

Bu’n freuddwyd gan Catherine Grace Cox gael gyrfa’n trin gwallt er pan oedd yn ifanc iawn a byddai’n helpu yn salon ei modryb yn aml. Roedd ei dyslecsia difrifol yn ei rhwystro rhag llwyddo’n academaidd a chafodd ei dal yn ôl i ddechrau pan oedd am ddilyn Hyfforddeiaeth (Ymgysylltu) mewn trin gwallt am na allai feistroli sgiliau llythrennedd a rhifedd.

Yna, ym mis Mehefin 2015, aeth yn feichiog a bu’n rhaid gohirio’i breuddwyd am yrfa’n trin gwallt. Ond, roedd Catherine, 19 oed sy’n byw ym Mangor, yn hollol benderfynol a daeth yn ôl i’r rhaglen Ymgysylltu trwy’r darparwr hyfforddiant Grwp Llandrillo Menai gan symud ymlaen yn fuan iawn i NVQ Lefel 1 mewn Trin Gwallt.