Neidio i'r prif gynnwy

Cynhaliwyd Gwobrau GO Cymru 2020 mewn seremoni ryngweithiol ar-lein ddydd Gwener 19 Mehefin.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gan ddod â chymuned gaffael Cymru ynghyd i ddathlu rhagoriaeth ac arloesedd, cyhoeddwyd enillwyr ar draws naw categori. 

Gwelodd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol lwyddiant fel rhan o gais gan Lyreco UK Ltd, am ‘Y gwasanaeth gorau - sefydliadau mawr a chanolig’. Gan weithio gyda Lyreco ac Elite Paper Solutions Ltd trwy'r cynllun Swyddi Gwell yn Nes at Adref, cydnabuwyd cynllun Copïwr Cymru am sicrhau budd sylweddol i gyflogaeth leol.

Enillodd Llywodraeth Cymru 'Gwobr Rhagoriaeth GO' gyffredinol ar ôl cael eu henwi fel enillwyr y categori ‘Arloesi ym myd Caffael y Flwyddyn– Bwrw ymlaen â’r swyddogaeth gaffael’.

Os gwnaethoch fethu’r seremoni, gallwch weld y digwyddiad cyfan ‘ar alw’ ar wefan Gwobrau GO Cymru, lle gwelwch hefyd restr lawn o enillwyr a’r ceisiadau a gafodd ganmoliaeth uchel.

Llongyfarchiadau i'r holl enwebeion a'r enillwyr!