Ynni Adnewyddol Cwm Arian
Enwebiad ar gyfer gwobr Pencampwr yr Amgylchedd
Cymdeithas Budd Cymunedol yw CARE sydd yn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol yng Ngogledd-ddwyrain Sir Benfro. Wedi 13 mlynedd o ymgyrchu, mae CARE wedi llwyddo i godi tyrbin gwynt 700KW i gynhyrchu ynni glân ger pentref Hermon.
Mae’r profiad a’r incwm o’r fenter hon wedi eu galluogi i ddatblygu nifer o brosiectau cymunedol eraill sy’n mynd i’r afael â newid hinsawdd ac wedi bod o gymorth i ddatblygu a chryfhau’r gymuned leol. Mae’r rhain yn cynnwys darparu dosbarthiadau coginio a phrydau bwyd cymunedol, gan ddefnyddio cynnyrch lleol, gweithdai compostio a thyfu, samplu llygredd mewn afonydd lleol, plannu coed a gwrychoedd, agor llwybrau troed a darparu gwasanaeth cyngor am ynni.
Drwy gyfres o geisiadau cyllido llwyddiannus, mae CARE wedi trawsnewid hen garej yng nghanol pentref Hermon i fod yn enghraifft arbennig o adeilad cymunedol cynaliadwy. Mae ‘Y Stiwdio Hermon’ yn cynnwys deunyddiau a gafodd eu tyfu yn lleol, a chafodd ei hadeiladu gan wirfoddolwyr, gydag arbenigwyr yn dysgu’r sgiliau angenrheidiol iddynt i gyflawni’r gwaith adnewyddu mewn modd cynaliadwy.
Mae CARE hefyd wedi lansio eu digwyddiad ‘Super Solar’ cyntaf yn ddiweddar, lle dysgwyd i 13 o bobl sut i gysylltu a defnyddio system paneli solar bach i wneud dewisiadau cynaliadwy a rhoi’r sgiliau iddynt allu cyflawni hynny.