Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Rhyngwladol

Mae Tîm Cynhyrchu Y Gwyll/ Hinterland wedi cael eu henwebu am Wobr Dewi Sant Rhyngwladol am y ffordd y mae’r ddrama yn hyrwyddo Cymru a’r Iaith Gymraeg i gynulleidfa ryngwladol.

Mae’r ddrama, a gynhyrchir gan Fiction Factory i BBC Cymru Wales ar y cyd ag S4C, wedi ei lleoli o gwmpas Aberystwyth ac ardal ehangach Ceredigion ac mae wedi ei ysbrydoli gan ddramâu trosedd megis “Broadchurch” gan ITV a drama Nordic Noir “The Killing” o Ddenmarc. Darlledwyd y gyfres bedair rhan yn wreiddiol yn y Gymraeg ym mis Hydref 2013, ac yna darlledwyd fersiwn Saesneg ar BBC Cymru a BBC 4 yn gynnar yn 2014. Pan gafodd ei ddangos ar BBC Wales, dyma oedd y tro cyntaf i ddrama deledu BBC wedi cynnwys deialog yn y Gymraeg a’r Saesneg. Trwy ddosbarthwr cyfryngau All3Media, mae'r gyfres wedi bod yn llwyddiant byd-eang gyda'r rhaglen yn cael eu dangos yn yr Almaen, Awstralia, Gwlad yr Iâ, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, y Ffindir, Norwy a Seland Newydd. Mae'r gyfres hefyd yn cael ei dangos ar Netflix yn yr Unol Daleithiau yn ogystal ag ar ei ffrydiau yng Nghanada a Sgandinafia. Mae'r manteision economaidd i ardal Aberystwyth o ganlyniad i’r gyfres gael ei ffilmio yno wedi cael eu hamcan yn fwy nag £ 1 filiwn. Mae'r gyfres hefyd wedi ennill nifer o wobrau rhyngwladol megis Gwobr Golden Eagle Cine fawreddog 2014, y wobr Ddrama Orau yng Ngwobrau Cyfryngau Celtaidd 2014 yn ogystal â thair gwobr BAFTA Cymru yn 2014. Bydd cyfres newydd o'r ddrama boblogaidd trosedd ar y sgrin yn hwyr yn 2015.