Wasem Said
Gwobr Ysbryd y gymuned enillydd 2020
Mae Wasem Said yn ddyn ifanc o Butetown. Dros y pum mlynedd diwethaf nid yn unig y mae wedi'i ddatblygu ei hun ond mae wedi datblygu ei gymuned hefyd.
Mae'n gweithio'n ddiflin gyda phobl ifanc yn yr ardal, gan eu helpu nhw i osgoi cyffuriau a gweithgareddau gwrthgymdeithasol eraill a allai gael effaith andwyol ar eu dyfodol. Fel rhan o'r gwaith hwn, mae wedi bod yn rhedeg Tiger Bay ABC, clwb bocsio amatur a sefydlwyd yn wreiddiol gan y cyn focsiwr pwysau canol ysgafn Pat Thomas – bellach mae dros 300 o ddynion a menywod ifanc yn aelod o'r clwb. Cynyddodd nifer yr aelodau yn sylweddol y llynedd, ac yn aml gellir gweld plant a phobl ifanc yn gwneud eu driliau – sgipio, gwaith ar y bag dyrnu a sbario – mewn dosbarthiadau rheolaidd.
Mae Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru wedi cefnogi Wasem yn y fenter hon, ac mae hefyd wedi bod yn gweithio gyda'r Aelod Seneddol a'r cynghorydd lleol.
Mae pobl yn y gymuned a Chaerdydd yn ehangach yn sôn am y ffordd mae pobl ifanc yn gwerthfawrogi campfa Wasem am gynyddu eu hunan-fri a'u helpu i drechu iechyd meddwl gwael drwy ddisgyblaeth yr hyfforddiant yno.
Gan weithio gydag arweinwyr cymuned eraill yn yr ardal, mae Wasem wedi ymgyrchu dros gael lle agored yn Butetown ar gyfer y gymuned gyfan, gan gynnwys plant bach, wedi'i glirio o'r offer peryglus sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Mae cyffuriau wedi peri problemau yn yr ardal ers amser maith, ac mae gweithgareddau yn y gymuned yn hanfodol i sicrhau nad yw pobl ifanc yn ymwneud â chyffuriau a gangiau treisgar. Aeth Wasem ar y trywydd hwn pan oedd yn eu harddegau, ond llwyddodd i ddianc o'r bywyd hwn pan fu farw ei dad ac roedd yn gorfod gofalu am ei deulu.