Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Busnes

Cafodd Tŷ Mawr Lime ei sefydlu gan ŵr a gwraig Nigel a Joyce Gervis yn 1995. Ar ôl prynu Tŷ Mawr, tŷ fferm adfeiliedig ym Mannau Brycheiniog, yn 1993, penderfynodd y Gervisiaid eu bod am ei adfer gan ddefnyddio morter a phlaster traddodiadol sy'n seiliedig ar galch, ond nid oedden nhw’n gallu dod o hyd i'r deunyddiau hyn. Felly, gan ddefnyddio profiad Nigel, dechreuon nhw wneud eu morter a'u plaster eu hunain.

Dros y 25 blynedd diwethaf mae'r cwmni wedi tyfu, ac mae bellach yn gweithredu mewn tri lleoliad yn ardal Aberhonddu. Maen nhw’n cyflogi 23 aelod o staff ac yn ymdrin â 10,500 o archebion bob blwyddyn.

Mae Tŷ Mawr Lime yn parhau i fod yr unig gwmni yng Nghymru sy'n cynhyrchu deunyddiau traddodiadol sy'n seiliedig ar galch, ac mae eu portffolio o gynhyrchion yn cynnwys amrediad o ddeunyddiau adeiladu ategol ecogyfeillgar, gan gynnwys deunyddiau inswleiddio o wlân defaid Cymru, paent naturiol, calch hydrolig a byrddau corc/ffeibr pren/gwlân pren.

Maen nhw hefyd wedi bod yn arloesol yn y maes hwn, gan ennill nifer o wobrau am ddatblygiadau fel y deunydd llorio Sublime (opsiwn arall i goncrid), plaster cywarch a chalch a phlaster Glaster (sy'n defnyddio deunyddiau adnewyddadwy a deunyddiau wedi eu hailgylchu yn lle tywod).

Maen nhw'n darparu hyfforddiant mewn sgiliau adeiladu traddodiadol, gan gynnwys gosod plaster calch a thoi â gwellt yn eu canolfan hyfforddi ac ar safleoedd cleientiaid.