Trudy Fisher
Enwebiad ar gyfer gwobr Gweithwyr hanfodol (allweddol)
Trudy Fisher, o Aberpennar, yw cydlynydd prosiect Gofalwyr Ifanc Rhondda Cynon Taf.
Mae'r prosiect yn cefnogi gofalwyr ifanc sydd rhwng 5 a 18 oed ac mae'n cynnig cymorth un-i-un, gweithgareddau a gweithdai grŵp amrywiol, gwyliau preswyl ac yn cysylltu gofalwyr ifanc â gweithgareddau cymunedol cynhwysol.
Yn ystod y cyfnod clo, sicrhaodd Trudy fod pob gofalwr ifanc a oedd yn rhan o'r prosiect yn cael yr holl gymorth a chefnogaeth yr oedd eu hangen arnynt. Treuliodd oriau yn gwneud pecynnau gofal a’u dosbarthu i deuluoedd mewn angen a helpodd i sicrhau grantiau ar gyfer trydan a bwyd i'r rhai yr effeithiwyd yn wael gan y pandemig.
Adeg y Pasg, cyflwynodd dros 100 o wyau Pasg i blant, trefnodd sesiynau zoom wythnosol, bu’n chwarae bingo ar-lein gyda'r plant a'r teuluoedd a threfnodd wobrau i godi eu morâl. Adeg y Nadolig, trefnodd anrhegion a thalebau bwyd i bob teulu hefyd.
Yn ystod adegau arferol, mae'n neilltuo oriau o'i hamser i godi arian i fynd â phlant ar dripiau a gweithgareddau, mae’n trefnu grwpiau misol a mannau diogel i ofalwyr ifanc gael amser i ffwrdd o'u rolau gofalu anodd. Mae'n sicrhau nad yw teuluoedd wedi'u hynysu'n gymdeithasol, bod gan ofalwyr ifanc lais ac mae’n codi ymwybyddiaeth ledled Rhondda Cynon Taf a thu hwnt.