Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Menter

Sefydlwyd Tiny Rebel Brewing Company, a leolir yng Nghasnewydd, yn 2012 gan y brodyr yng nghyfraith Bradley Cummings a Gareth Williams ac, ymhen pum mlynedd, mae'r cwmni wedi tyfu'n gyflym.

Mae trosiant y cwmni wedi tyfu i tua £7 miliwn y flwyddyn ac mae bellach yn cyflogi 120 o aelodau staff.

Dim ond eleni, aethon nhw ati i agor bragdy a chanolfan ymwelwyr pwrpasol o'r radd flaenaf yn Nhŷ-du, lle maent yn bragu eu cwrw crefft ac yn ei weini'n uniongyrchol i'r cyhoedd yn eu Bar Bragwyr a'u Cegin, yn ogystal â chynnal teithiau a sesiynau blasu wythnosol.

Mae'r cwmni hefyd wedi ennill rhai o wobrau bragu gorau'r DU, gan gynnwys eu cwrw Cwtch, a enillodd Cwrw Buddugol Prydain yn 2015, Busnes Bragdy'r Flwyddyn yn 2016, a gwobr Efydd gyffredinol yng Ngwobrau Cwrw Buddugol Prydain 2017.

Mae Tiny Rebel bellach yn allforio i 35 o wledydd ledled y byd, ac mae bron i 20% o'i drosiant yn dod o allforion.

Mae'r cwmni hefyd yn gefnogwr brwd i elusennau lleol, yn enwedig Gofal Hosbis Dewi Sant. Maen nhw hefyd yn cefnogi diwydiannau creadigol Cymru drwy noddi BAFTA Cymru a'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig.