Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae Tîm Ysbrydoli i Gyflawni Coleg Merthyr Tudful yn ymroddedig i sicrhau bod pob dysgwr unigol yn cael y cyfle i gyflawni ei botensial. Trwy gydweithio â rhanddeiliaid allanol, rhieni/gofalwyr a’r dysgwyr, maent yn sicrhau llwyddiant y rhai a fyddai fel arall yn ymgilio yn llwyr oddi wrth addysg. Mae'r tîm eisiau chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl ifanc rhag dysgu. Eu nod yw gwella perfformiad academaidd a datblygiad personol a chymdeithasol a sgiliau bywyd y bobl ifanc, yn ogystal â chynyddu presenoldeb, iddynt cyfle i ennill cymwysterau i'w helpu i symud ymlaen i addysg uwch, hyfforddiant neu gyflogaeth.

Mae'r tîm yn gweithio gyda phob rhan o'r coleg i eirioli dros y dysgwyr a’u cefnogi. Yn ddiweddar, enillodd y tîm wobr 'Ymgysylltu â Dysgwyr mewn Ysgol/Coleg' yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru – categori Newydd o wobir i gydnabod dulliau rhagorol o gynyddu presenoldeb ac ennyn ymrwymiad gan y dysgwyr.

Mae’r tîm Ysbrydoli i Gyflawni wedi llwyddo i gael 94% o fyfyrwyr i gwblhau eu cyrsiau. Dyma bobl ifanc a fyddai fel arall yn datgysylltu oddi wrth ddysgu yn llwyr. Dywed y dysgwyr bod y tîm yn eu helpu i deimlo'n ddiogel ac yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'w bywydau. Mae'r tîm yn chwarae rhan allweddol yng ngweledigaeth y Coleg, sef "Trawsnewid Bywydau Trwy Weithio Gyda'n Gilydd".